Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) 2021

 

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:

 

Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn nodi nodau cyffredin y Ddeddf. Tri o’r nodau hyn yw:

 

•           cyfyngu ar y feirws a’i arafu

•           lleihau’r baich ar staff rheng flaen; a

•           rhoi cymorth i bobl.

 

Mae adran 4.4 o’r Memorandwm Esboniadol sy’n mynd gyda’r Rheoliadau yn nodi manylion sut y bydd estyn y cyfnod perthnasol y mae Atodlen 29 yn gymwys iddo yn cefnogi’r tri nod hyn  – yn benodol drwy leihau digartrefedd, lleihau pwysau ar wasanaethau, gwella sicrwydd a lleihau pryder, a mwy o allu i gynorthwyo unigolion sy’n wynebu’r risg o gael eu troi allan. Bydd y darpariaethau a nodir yn Atodlen 29 yn parhau i fod yn gymwys am y rhesymau hynny.

 

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn cydnabod, fel y mae’r Pwyllgor wedi nodi, bod gohirio troi pobl allan yn annhebygol o chwarae rôl sylweddol o ran rheoli trosglwyddiad y feirws ar adeg y mae’r gyfradd drosglwyddo yn y gymuned yn isel iawn. Fodd bynnag, mae’r Memorandwm Esboniadol hefyd yn nodi bod cryn ansicrwydd o hyd o ran y llwybr y mae’r pandemig am ei gymryd ac yr ymddengys bod trydedd don yn bosibl yng Nghymru gan fod y dystiolaeth gyfredol yn awgrymu bod yr amrywiolyn Delta diweddaraf yn fwy trosglwyddiadwy na’r amrywiolyn Alpha, sef y prif amrywiolyn cyn hynny. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi ymhellach y byddai effaith unrhyw don newydd yn cynyddu’n sylweddol pe bai ton sydyn o achosion o droi pobl allan o’u cartrefi, a chynnydd mewn digartrefedd o ganlyniad i hynny, ac, o dan yr amgylchiadau hynny, ystyrir ei bod yn gymesur parhau i weithredu i gyfyngu ar y perygl o gynnydd sydyn yn yr achosion o droi pobl allan o’u cartrefi er mwyn parhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

 

Bydd y Pwyllgor yn ymwybodol y daeth y cyfyngiadau presennol ar orfodi achosion o droi pobl allan i ben pan ddaeth Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Diogelu Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 i ben ar 30 Mehefin. Bydd hyn yn anochel yn arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o droi pobl allan. Bydd y Rheoliadau hyn yn lliniaru ac yn gwastatáu’r cynnydd posibl yn nifer yr achosion o droi pobl allan yn ngoleuni’r perygl i iechyd y cyhoedd a berir gan hynny.

 

Mae’r Pwyllgor wedi gofyn am dystiolaeth bod troi tenantiaid allan yn peri mwy o risg i iechyd y cyhoedd na meysydd eraill lle y mae’r cyfyngiadau wedi eu codi. Yn ogystal â’r pwyntiau a godwyd uchod eisoes, mae hefyd yn werth nodi y gallai’r cyfyngiadau eraill hynny gael eu hailosod yng ngoleuni gwaethygiad sydyn o ran y pandemig ac y byddai hynny’n cael effaith uniongyrchol ar drosglwyddiad y feirws. Fodd bynnag, pe bai’r trefniadau ar gyfer cyfnodau rhybudd yn dychwelyd i’r gofynion a oedd yn bodoli cyn y pandemig, ni fyddai unrhyw achosion dilynol o ailosod cyfnodau rhybudd wedi eu cynyddu yn cael effaith uniongyrchol ar nifer y tenantiaid sydd ar fin wynebu’r perygl o gael eu troi allan o ganlyniad i rhybudd a roddwyd eisoes. O ran hyn, mae cyfnodau rhybudd hwy yn fath wahanol iawn o gyfyngiad i’r cyfyngiadau eraill y mae’r Pwyllgor yn cyfeirio atynt.

 

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 3:

 

Fel y bydd y Pwyllgor yn ymwybodol, drwy gydol y pandemig mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniadau yng ngoleuni’r cyd-destun yng Nghymru, ar sail y dystiolaeth sydd ar gael i ni, gyda’r nod o gadw pobl yn ddiogel yng Nghymru. Fel y nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol, ystyriwyd yr opsiwn o barhau â’r cynnydd mewn cyfnodau rhybudd ar raddfa lai, ac ystyriwyd manteision posibl hynny. Fodd bynnag, yng ngoleuni’r pryderon o ran y posibilrwydd o drydedd don yn codi o ganlyniad i drosglwyddadwyedd uwch yr amrywiolyn Delta, a’r gyfran sylweddol o’r boblogaeth nad ydynt wedi derbyn y ddau ddos o’r brechlyn hyd yma ac sydd felly dim ond i ryw raddau wedi eu diogelu rhag yr haint, y dull gweithredu mwy gochelgar a gymerir yn y Rheoliadau yw’r ffordd orau o adlewyrchu ein hamcan o gadw pobl yn ddiogel.

 

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 6:

 

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn cydnabod y gallai estyn y cyfnod perthnasol, fel bod y cyfnod rhybudd estynedig yn parhau, arwain at denantiaid yn cronni lefelau uwch o ôl-ddyledion rhent, gan arwain at galedi ariannol i landlordiaid yn y sector rhentu preifat – yn enwedig landlordiaid ar raddfa fach a allai ddibynnu ar eu hincwm rhent i dalu am daliadau morgais neu fel eu hunig ffynhonnell incwm. Fodd bynnag, mae hefyd yn nodi y bydd landlordiaid yn gallu adennill meddiant o hyd os yw tenant yn methu â thalu rhent, neu fel arall yn torri telerau ei denantiaeth. Fel y mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi, gan fod Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 wedi dod i ben ar 30 Mehefin, ni fydd unrhyw gyfyngiad parhaus ar landlordiaid yn cymryd camau i droi tenantiaid allan oherwydd ôl-ddyledion rhent ar ôl i’r cyfnod rhybudd ddod i ben.

Ar yr un pryd rydym wedi darparu pecyn cymorth ar gyfer y diwydiant, gan gynnwys:

·         £4.1 miliwn o gyllid atodol i’r Adran Waith a Phensiynau ar gyfer Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai i helpu’r rheini sy’n derbyn budd-daliadau tai sydd mewn ôl-ddyledion rhent,

·         cyllido Llinell Gymorth Dyledion y Sector Rhentu Preifat i roi cyngor a chymorth i denantiaid sector preifat sy’n cael anawsterau o ran rhent, incwm a budd-daliadau tai; darperir y gwasanaeth gan Gyngor ar Bopeth Cymru,

·         cyllid o £166 miliwn i awdurdodau lleol yn 2021-22 drwy’r Grant Cymorth Tai i ddarparu gwasanaethau cymorth sy’n ymwneud â thai. Mae’r gwasanaethau yn helpu i atal pobl rhag mynd yn ddigartref, yn sefydlogi eu sefyllfa o ran tai, neu’n helpu pobl sy’n wynebu’r perygl o ddigartrefedd i ddod o hyd i lety a’i gadw,

·         darparu cyllid ychwanegol drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol,

·         ein cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth a oedd yn cynnig benthyciadau cost isel i denantiaid sector preifat a oedd yn wynebu newid dros dro o ran incwm ac wedi mynd i ôl-ddyledion rhent;

·         cyllid i Shelter Cymru i gynghori a chynorthwyo tenantiaid;

·         y Grant Caledi i Denantiaid, sef ein grant newydd i gynorthwyo tenantiaid y sector rhentu preifat yng Nghymru sydd mewn ôl-ddyledion rhent sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig.